Tuesday 30 June 2009

Sherman Cymru Receives £3.9 million Arts Council of Wales Grant for Redevelopment


[Pictured above: Architect's impression, (c) Capita Architecture (image subject to change)]

Sherman Cymru is pleased to announce that it has received a Capital Lottery grant of £3.9 million from Arts Council of Wales in order to undergo a much needed redevelopment which will see the theatre building completely transformed.

Arts Council of Wales has awarded the grant to Sherman Cymru amounting to 74% of the total cost of the redevelopment which will see the public areas modernised, enhancing the audience's experience as well as refurbishing the backstage areas and improving conditions for staff and participants.

Director of Sherman Cymru Chris Ricketts comments:

"This is really great news and we're delighted with Arts Council of Wales's support.

The building work we will be able to do will vastly improve facilities, enhance our profile within the city and really enable us to be more ambitious with the productions we create and the performances we programme."

The redeveloped and refurbished building will have new seating in both theatres, new toilet facilities and the redevelopment of the foyer areas including improved access.

Backstage areas will be redeveloped to improve rehearsal and office space enabling enhancement to the quality of the work.

The building is being designed by Jonathan Adams at Capita Architecture, who also designed the Wales Millennium Centre. Sherman Cymru Chairman Emyr Jenkins said:

"Our redevelopment plans are aimed to give the Capital City of Wales's only producing theatre the venue it, and its audience, deserves - something of which we can all be proud."

The only producing theatre in South Wales, Sherman Cymru produces several new productions a year, most notably the award-winning Deep Cut in 2008 which was a sell-out hit at the Edinburgh Festival Fringe 2008, before transferring to London's prestigious Tricycle Theatre earlier this year.

Sherman Cymru also annually produces popular Christmas productions.

Sherman Cymru's Learning and Engagement team have worked with almost 7000 young people in the past year alone through the Youth Theatre and Acting Out Cardiff, which allows 14-16 year olds to study for a BTEC in Performing Arts at the theatre, and various other projects with young people, asylum seekers and refugees.

Arts Council of Wales Chief Executive, Nick Capaldi comments:

"Sherman's contribution to the cultural life of Wales is longstanding and well established. We're delighted to be making this significant investment of funding in the theatre's future.

Sherman Cymru is already one of the country's most important theatre producers. It's essential that it has the quality of facilities to match."

Sherman Cymru aims to raise the remaining £1.5 million needed for the scheme from a range of sources and has begun discussions with a variety of potential funders.

A public campaign for individual donations will be launched in September and fundraising activities include Sherman Cymru staff members running the Cardiff Half Marathon.

The current Sherman building will close its doors for the 18 month refurbishment in January 2010 following Sherman's 2009 Christmas production A Christmas Carol.

Sherman Cymru will move to temporary offices in Cardiff and will continue to produce and tour theatre around the UK as well as maintaining its Learning and Engagement work.

The Sherman Theatre building was opened in 1973 as part of University College Cardiff, built through a donation from the Harry and Abe Sherman.

It was bought by the Arts Council in Great Britain (ACGB) in the late 1980s and leased to Sherman Theatre Limited., with ownership transferred to the Arts Council of Wales in 1993 when ACBG disbanded.

In 2007 The Sherman Theatre Company and new writing company Sgript Cymru merged to create Sherman Cymru.

For more press and media information, please contact: jenny.boyatt@shermancymru.co.uk

Sherman Cymru yn Derbyn Grant o £3.9 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer yr Ail-ddatblygu

Mae Sherman Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant o £3.9 miliwn gan y Loteri Genedlaethol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd yr arian yn ein galluogi i gyflawni'r gwaith adnewyddu sy'n gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod adeilad y theatr yn cael ei drawsnewid yn llwyr.


Mae cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i Sherman Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynrychioli 74% o gyfanswm cost yr ail-ddatblygu.

Bydd hyn yn cynnwys moderneiddio'r ardaloedd cyhoeddus, fydd felly'n gwella profiad y gynulleidfa, yn ogystal ag adnewyddu'r ardaloedd cefn llwyfan ac yn gwella'r amodau ar gyfer staff a chyfranogwyr.

Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:

"Dyma newyddion ardderchog, 'rydym wrth ein bodd gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd y gwaith adeiladu fydd yn bosib i ni ei gyflawni yn gwella'r cyfleusterau'n ddirfawr, yn codi ein proffil yn y ddinas, ac yn ein galluogi i fod yn fwy uchelgeisiol gyda'r cynyrchiadau 'rydym yn eu creu a'r perfformiadau 'rydym yn eu rhaglennu."

Bydd gan yr adeilad ar ei newydd wedd seddi newydd yn y ddwy theatr, cyfleusterau cyhoeddus newydd, a bydd y cyntedd hefyd yn cael ei ddatblygu - bydd hyn yn cynnwys gwella'r mynediad i'r theatr.

Bydd yr ardaloedd cefn llwyfan yn cael eu hail-ddatblygu er mwyn gwella'r ystafelloedd ymarfer a'r swyddfeydd, gan alluogi i safon y gwaith a gynhyrchir yno godi.

Cynllunnir yr adeilad gan Jonathan Adams o Capita Architecture, fu hefyd yn gyfrifol am gynllunio Canolfan Mileniwm Cymru. Dywedodd Cadeirydd Sherman Cymru, Emyr Jenkins:

"Bwriad ein cynlluniau ar gyfer yr ail-ddatblygu yw creu adnoddau teilwng ar gyfer yr unig theatr gynhyrchu ym mhrifddinas Cymru, ynghyd â'i chynulleidfa - adeilad y gallwn oll ymfalchïo ynddo"

Sherman Cymru yw unig theatr gynhyrchu De Cymru, ac mae'n cyflwyno nifer o gynyrchiadau newydd bob blwyddyn.

Y mwyaf nodedig oedd Deep Cut yn 2008 a enillodd sawl gwobr, yn ogystal â bod yn llwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2008 pan werthwyd pob tocyn, cyn symud i theatr nodedig y Tricycle yn Llundain yn gynharach eleni.

Mae Sherman Cymru hefyd yn cyflwyno cynyrchiadau Nadolig poblogaidd yn flynyddol.

Mae tîm Dysg ac Ymgysylltu Sherman Cymru wedi gweithio gyda bron i 7000 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, drwy'r Theatr Ieuenctid ac Acting Out Caerdydd, sy'n galluogi i fyfyrwyr 14-16 mlwydd oed astudio ar gyfer tystysgrif BTEC yn y Celfyddydau Perfformio yn y theatr ei hun, a nifer o brosiectau eraill gyda phobl ifanc, ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid.

Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae cyfraniad y Sherman i fywyd diwylliannol Cymru'n un hir ac wedi'i hen sefydlu.

'Rydym wrth ein bodd gwneud y buddsoddiad ariannol arwyddocaol hwn yn nyfodol y theatr.

Mae Sherman Cymru eisoes yn un o gynhyrchwyr theatr pwysicaf y wlad. Mae'n hanfodol fod yno'r cyfleusterau i gyd-fynd â hyn."

Nod Sherman Cymru yw codi'r £1.5 miliwn ychwanegol sydd ei angen ar gyfer y cynllun o nifer o ffynonellau amrywiol, ac mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda nifer o arianwyr posib.

Bydd ymgyrch gyhoeddus ar gyfer rhoddion unigol yn cael ei lansio ym mis Medi, ac mae gweithgareddau codi arian yn cynnwys aelodau o staff y Sherman yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd.

Bydd y drysau'n cau ar adeilad presennol y Sherman ym mis Ionawr 2010 ar gyfer y cyfnod adnewyddu, yn dilyn cynhyrchiad Nadolig y Sherman yn 2009, sef A Christmas Carol.

Bydd Sherman Cymru yn symud i swyddfeydd dros dro yng Nghaerdydd ac yn parhau i gynhyrchu a theithio gwaith theatrig ledled y DU, a hefyd yn parhau â'r gwaith Dysg ac Ymgysylltu.

Agorwyd adeilad Theatr y Sherman ym 1973 fel rhan o Goleg Prifysgol Caerdydd, ac fe'i adeiladwyd yn dilyn rhodd gan Harry ac Abe Sherman.

Fe'i prynwyd gan Gyngor Celfyddydau Prydain (CCP) yn niwedd y 1980au a'i gymryd ar les gan Theatr y Sherman Cyf.

Trosglwyddwyd perchnogaeth yr adeilad i Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1993 pan chwalwyd CCP.

Yn 2007 ymunodd Cwmni Theatr y Sherman a Sgript Cymru, y cwmni ysgrifennu newydd, i greu Sherman Cymru.

Am wybodaeth i'r wasg a'r cyfryngau, cysylltwch gyda: jenny.boyatt@shermancymru.co.uk

AIM: ATRiuM Intelligent Media


Study Abroad in Britain, Europe and the U.S.A. / Canada Website.



Click here to go directly to my personal blog page called Courage 2 Create, on the World Wide Web.

Click here to go directly to my personal blog page called Grace-filled Empty Spaces, on the World Wide Web.

Click here to go directly to my personal blog page called Welsh-American Family Genealogy, on the World Wide Web.

Click here to go directly to my personal blog page called Welsh Music, Film, and Books Symposium, on the World Wide Web.

Click here to go directly to my personal blog page called Celtic Cult Cinema on the World Wide Web.

Visit the UK Film Studies and World Cinema and Music Import Showcase

© 2009 Dr. Mark Leslie Woods